Gwledd addas i wenyn
Er mwyn cadw eich cnydau bwyd yn iach ac yn tyfu'n dda, bydd angen cydbwysedd o bryfed, gyda chymysgedd da o bryfed peillio, ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth. Dechreuwch drwy gynnig y pethau maen nhw wrth eu bodd yn eu bwyta i greu gardd sy'n eu denu. Bydd blodau gwyllt yn llawn paill a neithdar melys yn darparu gwledd addas i wenyn, bwffe i löynnod byw a thamaid blasus drwy’r dydd i’r chwilod sydd yn eich gardd.
Ni fydd yr adar, y brogaod a’r draenogod yn llwgu chwaith pan fydd chwilod, pryfed genwair, malwod a gwlithod ar y fwydlen yn eich gardd. Drwy ddeall beth mae’r creaduriaid gwyllt yma’n ei fwyta, gallwn greu hafan ffyniannus i fywyd gwyllt yn ein cymdogaethau ochr yn ochr â thyfu bwyd blasus yn llwyddiannus i’n teuluoedd a’n ffrindiau.