Dechrau Arni

A family surrounded by vegetable plants. A woman with white skinm, long fair hair and a green shirt is holding a basket full of vegetables. Her daughter, a young girl with white skin and fair in yellow dungarees holds a bunch of tomatoes. Her son, with white skin and fair hair hidden benath a straw hat, watches on

Family picking vegetables © iStock.com/Halfpoint

Dechrau Arni

Mae'n dechrau gyda sbarc o ysbrydoliaeth - edrychwch ar rai o'r straeon sydd wedi cael eu rhannu gan bobl ledled y DU yma. 

Ychwanegwch ychydig o wybodaeth. Dechreuwch gyda'n blog ni, popeth am gynllunio eich gardd neu eich gofod tyfu, yma. Mae gennym ni hefyd lawer o gyngor ymarferol ar wefan yr Ymddiriedolaethau Natur. 

Ydych chi'n meddwl nad oes gennych chi'r lle? Lawrlwythwch ein canllaw am ddim ni i arddio mewn gofod bach yma. Fe allech chi hefyd gysylltu â (neu sefydlu!) grŵp garddio cymunedol yn eich ardal. Mae ein Hwb Cymunedol ni’n llawn cyngor am ddechrau a rhedeg grwpiau. 

Bob blwyddyn, mae'r RHS a'r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal ymgyrch o'r enw Gwyllt Am Erddi / Wild About Gardens sydd â llawer o gyngor a gwybodaeth wych. 

Ydych chi'n ffafrio derbyn eich gwybodaeth ar ffurf fideo? Edrychwch ar ein rhestr chwarae ni ar YouTube! Dysgwch bopeth am wrtaith cyfardwf a biniau pryfed genwair gan y Master Composters a chael eich ysbrydoli gan y straeon o grwpiau cymunedol ledled y DU. 

A group of people outside, standing up, by some shipping containers

Copyright Rachel Hardy/Yorkshire Wildlife Trust 2023

Mae digonedd o gymunedau gwych yn bodoli, yn cysylltu i dyfu bwyd a helpu byd natur ar yr un pryd. Beth am edrych i weld oes un yn eich ardal chi? Neu fe allech chi roi cynnig ar sefydlu un eich hun hyd yn oed! Gall Incredible Edible a Natur Drws Nesaf yr Ymddiriedolaethau Natur ddarparu cefnogaeth a chyngor i'ch helpu chi i ddechrau arni. A beth am ddod o hyd i'ch Sefydliad y Merched lleol a darganfod pa gefnogaeth y gallant ei chynnig? Mae gan Garden Organic grwpiau a digwyddiadau ledled y DU - dysgwch fwy yma. 

Rydyn ni wedi casglu mwy o wybodaeth i'ch helpu chi i ddechrau arni. 

I wneud gwahaniaeth ar unwaith, mewn gofod bach, beth am greu gardd mewn cynhwysydd? Dysgwch sut yma. 

Mae'n bwysig osgoi defnyddio mawn - a chadwch lygad am fawn cudd mewn planhigion rydych chi'n eu prynu! Dysgwch am sut i arddio’n ddi-fawn yma, gyda rhai awgrymiadau defnyddiol ar wneud eich compost eich hun hefyd. 

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ond mae'n hawdd arbed dŵr gyda'r awgrymiadau defnyddiol yma. 

Ddim yn siŵr beth i'w dyfu? Rydyn ni wedi meddwl am bopeth! 

Gwnewch eich gardd yn baradwys i fywyd gwyllt yn ogystal â phobl - awgrymiadau a chynghorion yma. 

Ydych chi eisiau lleihau neu roi'r gorau i ddefnyddio cemegau a allai fod yn niweidiol? Fe allwn ni helpu!