Gerddi'r Coroni

Two friends watering plants on a sunny day (c) TommasoT

Two friends watering plants on a sunny day (c) TommasoT

Croeso! 

Os ydych chi'n ddechreuwr neu'n arddwr profiadol, yn unigolyn, yn grŵp, yn ysgol neu'n fusnes; os oes gennych chi ardd enfawr neu falconi; os ydych chi'n newydd sbon i dyfu neu wedi bod yn garddio ers blynyddoedd - mae gennym ni ysbrydoliaeth a chyngor i chi. Edrychwch ar yr adran Dechrau Arni am yr holl awgrymiadau a chynghorion defnyddiol i'ch rhoi chi ar ben ffordd i dyfu, ac os ydych chi eisiau gwybod beth i'w wneud gyda'ch cynnyrch, fe allwch chi ddarganfod ryseitiau tymhorol misol yma. 

Roedd prosiect Gerddi'r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur yn brosiect a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a gafodd ei weithredu rhwng 2023 a 2025 i annog mwy o bobl i dyfu bwyd mewn ffordd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Roedd yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaethau Natur, Garden Organic, Incredible Edible a Sefydliad y Merched. Dysgwch fwy am hynny ar ein tudalen Amdanom Ni. 

a mix of green plants

A Barlow/RSWT

Gofod bach, effaith fawr

Cofiwch gael ein canllaw am ddim ni i dyfu bwyd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt mewn gofod bach 

Lawrlwythwch nawr
Children sorting potatoes

Copyright Damers First School, Dorset 2024

Troi bysedd bach yn wyrdd

Lawrlwythwch y pecyn am ddim yma ar gyfer ysgolion, gan gynnwys calendr plannu ar gyfer y tymor ysgol, geirfa, cyllidebau a llond gwlad o syniadau ac ysbrydoliaeth 

Lawrlwythwch nawr
Elderly women gardening

Penny Dixie

Nawr yw'r amser i ddechrau arni!

Mwy fyth o adnoddau a chyngor i chi 

darganfyddwch fwy
Spiced Halloween Maple Apple Crumble

Lucie Wilson

Ryseitiau tymhorol drwy gydol y flwyddyn

Dewch o hyd i rywbeth i’w goginio ar gyfer pob mis o'r flwyddyn 

Bwyd i chi

Ydych chi'n ffafrio derbyn eich gwybodaeth ar ffurf fideo? Edrychwch ar ein rhestr chwarae ni ar YouTube! Dysgwch bopeth am wrtaith cyfardwf a biniau pryfed genwair gan y Master Composters a chael eich ysbrydoli gan y straeon o grwpiau cymunedol ledled y DU. 

Pum nodwedd Gardd y Coroni ar gyfer bwyd a natur

Rydyn ni wedi nodi pum cam allweddol i greu gardd sy'n wych i chi ac i fywyd gwyllt. Os hoffech chi gymryd rhan, dyma'r pethau sydd angen i chi eu gwneud:

1. Tyfu bwyd iach i’w fwyta – gallai hyn amrywio o berlysiau a salad, i lysiau a choed ffrwythau yn dibynnu ar y gofod sydd gennych chi. 

2. Blodau sy’n gyfeillgar i bryfed peillio – mae angen ffynonellau o neithdar a phaill ar löynnod byw, gwyfynod, gwenyn a phryfed hofran i ffynnu. Wrth iddyn nhw deithio o flodyn i flodyn, maen nhw hefyd yn eu peillio, gan alluogi planhigion i fwrw had neu ddwyn ffrwyth.

3. Ewch ati i greu nodwedd dŵr - gallai fod mor syml â gosod dysgl o dan ddŵr neu ymwneud â chloddio pwll, ei leinio a rhoi ocsigen ynddo gan ddefnyddio planhigion brodorol fel cornllys.

4. Gadewch ddarn o laswellt tal neu bentwr o foncyffion - mae’r cam cynnal a chadw lefel isel yma’n ffordd berffaith o greu lloches i fywyd gwyllt, gan gynnwys ysglyfaethwyr naturiol fel draenogod a brogaod.

5. Peidiwch â defnyddio cemegau na mawn – osgowch ddefnyddio plaladdwyr, chwynladdwyr na mawn!

Please enable javascript in your browser to see the map.

Layers

Show more layers
Show fewer layers
Arit Anderson

Arit Anderson (c) Julian Winslow

"Even the smallest of outdoor spaces can be used to grow wildflowers alongside salads and herbs – it’s all about getting creative and thinking outside the box. I love seeing imaginative growing ideas on balconies and window ledges and I hope that people everywhere will get behind this project, using outdoor areas of all shapes and sizes."

 

Arit Anderson, garden writer, designer and presenter