Dŵr i'ch gardd

A wildlife pond at the bottom of a lawn, surrounded by lush vegetation

Wildlife pond © Anna Williams

Dŵr i'ch gardd

Arbed Dŵr

Yn rhan o’ch trefn ymwybyddiaeth ofalgar ben bore, ewch ati i hydradu planhigion yr ardd gyda jwg dyfrio i arbed dŵr. Targedwch blanhigion penodol a gwnewch yn siŵr bod y gwlybaniaeth yn cyrraedd y gwreiddiau sy'n amsugno’r dŵr yn ystod y dydd. Ychwanegwch domwellt a rhisgl i leihau’r anweddiad hyd at 75% i sicrhau bod eich planhigion yn tyfu ac yn ffynnu. Dyfrio gyda'r nos ydi'r amser gorau o'r dydd wedyn, pan fydd hi'n oerach. 

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae cyflenwadau dan bwysau oherwydd effeithiau newid hinsawdd a thwf poblogaeth. Felly ni ddylai chwistrellwyr sy'n gwastraffu 1,000 litr yr awr gael eu gadael i redeg, yn enwedig pan mae'r dŵr yn anweddu mor gyflym. Does dim angen dyfrio'r lawnt mewn gwirionedd, oherwydd bydd glaswellt brown yn troi’n wyrdd eto pan fydd hi'n bwrw glaw. Ystyriwch addasu eich gardd i newid yn yr hinsawdd drwy blannu planhigion sy'n gallu gwrthsefyll sychder, sydd angen llai o ddŵr hefyd. 

Casglwch law mewn casgenni dŵr, bwcedi wedi’u troi ar i fyny, cafnau, berfa wag neu mewn pyllau gardd. Drwy fanteisio i’r eithaf ar ddyddiau glawog, bydd gennym gronfeydd wrth gefn o ddŵr ar gyfer dyfrio’r planhigion sy'n tyfu yn ystod tywydd sych a gwaharddiadau ar ddefnyddio pibellau dŵr a hefyd i helpu bywyd gwyllt. Bydd defnyddio llai o ddŵr ein hunain yn sicrhau bod digon ar ôl yn ein hecosystemau, ein hafonydd a’n gwlybdiroedd ar gyfer bywyd gwyllt fel pysgod a dyfrgwn. Gall hefyd arbed ynni ac arian, os ydych chi ar fesurydd dŵr. 

Water for wildlife

From a tiny birdbath to a spacious pond, providing water in your garden is one of the best ways to attract and help wildlife. We've got some great tips for creating water features that wildlife will love!