Bwyd blasus sy'n gyfeillgar i natur
Mae tyfu bwyd mewn cytgord â byd natur yn golygu bod gan fywyd gwyllt rywle i fyw lle mae eich cnydau chi’n tyfu. Mae’n golygu tyfu blodau ar gyfer gwenyn, gadael llecynnau gwyllt ar gyfer chwilod y ddaear ac adar y to, a rhannu eich mafon gyda’r fwyalchen hyd yn oed, yn ogystal â chael gwared ar bryfladdwyr a chwynladdwyr.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Rhowch gynnig ar gnydau hawdd fel corbwmpenni, mefus a ffa dringo. Cychwynnwch nhw mewn potiau o gompost di-fawn a'u plannu pan fydd ganddyn nhw bedair deilen o leiaf ac ar ôl i bob risg o rew fynd heibio o fis Mehefin ymlaen. Efallai y bydd angen i chi eu gwarchod nhw rhag gwlithod a malwod. Rhowch ddŵr iddyn nhw bob yn ail ddiwrnod mewn tywydd sych, a'u bwydo nhw â bwyd tomato organig. Fe fyddwch chi’n cynaeafu eich cnwd cartref cyntaf mewn dim o dro!
Darganfyddwch ryseitiau blasus, tymhorol wedi'u gwneud gyda chynhwysion cartref yn ein blog misol ni gan Lucie, aelod o Sefydliad y Merched Hampshire, pobydd, gwneuthurwr ac awdur bwyd a choginio.
Darganfyddwch pam mae'r awdur Kate Bradbury yn gyffrous am y fenter yma i dyfu bwyd mewn cytgord â byd natur ac annog bywyd gwyllt i ymweld â'n gerddi ni.
Learn how to grow microgreens on any windowsill and you can harvest fresh mini salads at any time of the year.