Amdanom Ni

A man with white skin, short brown hair and beard, wearing a grey t-shirt is gardening with his son, a young boy with white skin and medium-length blonde hair, wearing a bright yellow jacket. They're preparing a patch of soil for planting.

Gardening © iStock.com/JulPo

Amdanom Ni

Gwaddol Parhaus

Gwnaeth Ei Fawrhydi y Brenin Charles gyfraniadau hynod at y byd naturiol a chadwraeth amgylcheddol yn ystod ei gyfnod fel Tywysog Cymru. Ymwelodd am y tro cyntaf â gwarchodfa natur gan yr Ymddiriedolaethau Natur yn 23 oed a daeth yn Noddwr yr Ymddiriedolaethau Natur yn 1977. Ers hynny mae wedi bod yn hyrwyddwr brwd ar fyd natur ers dros 50 mlynedd.

Gyda Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur, rydyn ni’n cyfuno profiad yr Ymddiriedolaethau Natur, Incredible Edible, Garden Organic a Sefydliad y Merched, i greu gwaddol parhaus. Ein nod ni yw i unigolion a chymunedau addo tyfu ffrwythau a llysiau yn gynaliadwy, a hefyd helpu byd natur ar hyd y ffordd.

Kate Bradbury

Darganfyddwch pam mae’r awdur garddio, y darlledwr a’r cyflwynydd teledu arobryn, Kate Bradbury, yn gyffrous am y fenter yma ac eisiau helpu pobl i dyfu bwyd ochr yn ochr â byd natur. Mae Kate Bradbury wedi ysgrifennu pedwar llyfr garddio bywyd gwyllt, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar y radio ac mae wedi cymryd rhan yn Gardeners’ Question Time ar BBC Radio 4.

Read more 

Partners

The Wildlife Trusts Logo

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn fudiad llawr gwlad o bobl o ystod eang o gefndiroedd a phob cefndir, sy’n credu bod angen natur arnom ac mae natur ein hangen. Mae gennym fwy na 911,000 o aelodau, dros 35,000 o wirfoddolwyr, 2,000 o staff a 600 o ymddiriedolwyr. Mae yna 46 o Ymddiriedolaethau Natur unigol, pob un yn elusen annibynnol seiliedig ar le gyda’i hunaniaeth gyfreithiol ei hun, a ffurfiwyd wrth i grwpiau o bobl ddod at ei gilydd a gweithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol, gan ddechrau lle maent yn byw a gwaith.

“Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf mae’r Brenin wedi galw’n gyson ar bobl i fyw mewn cytgord â natur ac wedi hybu tyfu bwyd cynaliadwy ochr yn ochr â phlannu ar gyfer pryfed peillio a garddio heb blaladdwyr. Mae’n bwysicach nag erioed adfer natur a gwella iechyd a lles cymunedau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl ym mhobman yn mwynhau helpu bywyd gwyllt drwy dyfu tatws a gwrd - a hoffem wahodd grwpiau ledled y DU i ymuno â’n rhaglen arddio wych.”

Craig Bennett, prif weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur 

Find out more

Incredible Edible Logo

Cenhadaeth Incredible Edible yw creu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig, gyda mwy o ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gallwn ni fyw yn fwy cynaliadwy, drwy bŵer bwyd. Mae tua 150 o grwpiau ar lawr gwlad sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr yn y DU yn tarddu o’r grŵp gwreiddiol yn Todmorden.

Mae Incredible Edible yn fudiad o bobl gyffredin sy'n gwneud pethau anghyffredin. Mae Incredible Edible wedi bod yn fudiad o’r gwaelod i fyny bob amser ar gyfer newid ar lawr gwlad a thrwy’r degawd diwethaf, mae rhwydwaith Incredible Edible wedi bod yn grŵp o ffrindiau cysylltiedig sy’n ymroddedig nid ar sail strwythur a chyfansoddiad, ond ar sail calonnau ac angerdd, i greu dyfodol gwahanol a phresennol gwell. Does dim rheolau, dim ond croeso cynhwysol sy’n ein hatgoffa ni bob dydd os ydych chi’n bwyta, rydych chi’n rhan o hyn.

“Tyfu bwyd ffres i’w rannu yn ein cymdogaethau ni yw’r ffordd berffaith o ailgysylltu â byd natur. Mae profiad Incredible Edible yn dangos bod gennym ni leoedd yn agos at ein cartrefi y mae posib eu trawsnewid yn fannau bwytadwy, cyfeillgar i natur sy’n ailgysylltu pobl â’i gilydd, â dyfodol iachach ac â’n hamgylchedd ni.”

Pamela Warhurst CBE, cadeirydd Incredible Edible

Find out more

Garden Organic Logo

Mae Garden Organic yn hyrwyddo tyfu a chompostio organig, gwyddoniaeth ac ymchwil y dinesydd, a chadwraeth hadau drwy ein Llyfrgell Hadau Treftadaeth. Ein nod ni yw helpu pobl i dyfu mewn 'ffordd organig', gan ddefnyddio dulliau naturiol i hyrwyddo gerddi iach, bioamrywiol, cynaliadwy. Wedi’i sefydlu yn y 1950au fel Cymdeithas Ymchwil Henry Doubleday, mae Garden Organic wedi bod yn arwain y ffordd wrth ymchwilio ac arddangos arfer gorau tyfu’n organig am fwy na 65 mlynedd ac yn dod â mudiad o filoedd o dyfwyr sy’n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar y gofod gwyrdd maen nhw’n ei drin at ei gilydd. 

“Mae Garden Organic yn falch iawn o fod yn bartner sefydlu fel rhan o brosiect Gerddi’r Coroni. Rydyn ni’n credu’n gryf pe bai pawb yn cymryd y camau lleiaf hyd yn oed i wneud eu man tyfu - boed yn ardd, rhandir neu bot ar silff ffenest - yn hafan gynaliadwy, gyfoethog mewn bywyd gwyllt a bwyd ffres cartref, y byddai’r effaith gyfunol ar fioamrywiaeth werthfawr y DU yn arwyddocaol.”

Fiona Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Garden Organic

Find out more

The WI

Sefydliad y Merched yw’r sefydliad gwirfoddol mwyaf i ferched yn y DU gyda thua 180,000 o aelodau mewn mwy na 5,500 o ganghennau Sefydliad y Merched ledled Cymru, Lloegr a’r Ynysoedd. Mae’r sefydliad yn chwarae rhan unigryw wrth alluogi merched i ddatblygu sgiliau newydd, gan roi cyfleoedd iddyn nhw ymgyrchu dros faterion sydd o bwys iddyn nhw a’u cymunedau. Dros y can mlynedd diwethaf mae aelodau Sefydliad y Merched wedi ymgyrchu dros lu o bryderon amgylcheddol, o lygru’r moroedd oherwydd taflu olew dros fwrdd llongau (1927) i benderfyniad yn galw am weithredu i wella carthffosydd i atal llygru dyfrffyrdd (1958). Daeth ymgyrch Diwedd ar Gawl Plastig arloesol Sefydliad y Merched, a lansiwyd yn 2017, â phroblem llygredd plastig o ddillad synthetig i sylw cynulleidfa prif ffrwd am y tro cyntaf.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn am fod yn gweithio ar y fenter newydd wych yma i ddathlu ymrwymiad hirsefydlog Ei Fawrhydi y Brenin i gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae gan Sefydliad y Merched fwy na chan mlynedd o hanes balch o warchod yr amgylchedd naturiol, chwarae rhan weithredol yn ein cymunedau, a hyrwyddo cynaliadwyedd."

Melissa Green, prif weithredwr, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched

Find out more

Funded by

Heritage Lottery Fund Logo

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi £247,834 i roi hwb i fenter Gerddi'r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur.