Gerddi'r Coroni

Two friends watering plants on a sunny day (c) TommasoT

Two friends watering plants on a sunny day (c) TommasoT

Gerddi'r Coroni ar gyfer bwyd a natur

Beth am fod yn wyllt - gyda'n gilydd

Tyfu mewn cytgord â natur

Croeso! Os ydych chi’n newydd i arddio neu’n fwy profiadol, rydyn ni yma i’ch cefnogi a’ch ysbrydoli chi i dyfu mwy o fwyd – llysiau, perlysiau, ffrwythau – mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Cofiwch ddweud wrthyn ni beth rydych chi'n gobeithio ei wneud! Gallwch addo creu Gardd y Coroni ar gyfer Bwyd a Natur yma, a dewis derbyn amrywiaeth o gylchlythyrau cefnogol os hoffech chi gael cyngor a help rheolaidd. 

Os ydych chi’n ddechreuwr neu’n arddwr profiadol, yn unigolyn, yn grŵp, yn ysgol neu’n fusnes, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cymryd rhan. Cofiwch edrych ar ein gwefan ni. Edrychwch ar yr adran Dechrau Arni am yr holl awgrymiadau a chynghorion defnyddiol i'ch helpu chi i dyfu, ac os ydych chi eisiau gwybod beth i'w wneud gyda'ch cynnyrch, gallwch ddarganfod ryseitiau tymhorol misol gan Sefydliad y Merched yma. 

Addo eich gardd

Darganfyddwch pa mor bwysig ydi eich gofod awyr agored – dim ots pa mor fawr neu fach, trefol neu wledig, mae pob gardd yn bwysig! Darllenwch yr adroddiad diweddaraf gan Garden Organic yma. 

Worms and soil

Mae gennym ni bryfed genwair!

Mae Garden Organic yn rhannu eu cynghorion fel eich bod chithau’n gallu cael pryfed genwair hefyd!

Darllenwch y blog yma
Stylised graphic of children and veg

Barod i wneud eich ysgol yn wyrddach?

Lawrlwythwch ein canllaw AM DDIM i arddio mewn ysgolion a bydd yr hwyl yn dechrau!

Yma!
a row of vegetables

Cynnig arbennig

Gwnewch addewid fis Awst eleni a chael 50% oddi ar hadau blodau gwyllt mewn tun unigryw

Rhannwch eich un chi
Blueberry and Blackberry Cobbler

Lucie Wilson/The WI

Seasonal recipes

Discover delicious recipes for August from the WI

Bake with Lucie
Arit Anderson

Arit Anderson (c) Julian Winslow

"Even the smallest of outdoor spaces can be used to grow wildflowers alongside salads and herbs – it’s all about getting creative and thinking outside the box. I love seeing imaginative growing ideas on balconies and window ledges and I hope that people everywhere will get behind this project, using outdoor areas of all shapes and sizes."

 

Arit Anderson, garden writer, designer and presenter

Pum nodwedd Gardd y Coroni ar gyfer bwyd a natur

Rydyn ni wedi nodi pum cam allweddol i greu gardd sy'n wych i chi ac i fywyd gwyllt. Os hoffech chi gymryd rhan, dyma'r pethau sydd angen i chi eu gwneud:

1. Tyfu bwyd iach i’w fwyta – gallai hyn amrywio o berlysiau a salad, i lysiau a choed ffrwythau yn dibynnu ar y gofod sydd gennych chi. 

2. Blodau sy’n gyfeillgar i bryfed peillio – mae angen ffynonellau o neithdar a phaill ar löynnod byw, gwyfynod, gwenyn a phryfed hofran i ffynnu. Wrth iddyn nhw deithio o flodyn i flodyn, maen nhw hefyd yn eu peillio, gan alluogi planhigion i fwrw had neu ddwyn ffrwyth.

3. Ewch ati i greu nodwedd dŵr - gallai fod mor syml â gosod dysgl o dan ddŵr neu ymwneud â chloddio pwll, ei leinio a rhoi ocsigen ynddo gan ddefnyddio planhigion brodorol fel cornllys.

4. Gadewch ddarn o laswellt tal neu bentwr o foncyffion - mae’r cam cynnal a chadw lefel isel yma’n ffordd berffaith o greu lloches i fywyd gwyllt, gan gynnwys ysglyfaethwyr naturiol fel draenogod a brogaod.

5. Peidiwch â defnyddio cemegau na mawn – osgowch ddefnyddio plaladdwyr, chwynladdwyr na mawn!

Gerddi'r Coroni ar y gweill

Ymunwch â'n cymuned bysedd gwyrdd i weithredu dros fyd natur drwy dyfu bwyd cynaliadwy heddiw!

Addo eich gardd

Please enable javascript in your browser to see the map.

Layers

Show more layers
Show fewer layers