Addo creu Gardd y Coroni ar gyfer Bwyd a Natur
Bwydwch eich hun a'ch cymdogion gwyllt. Does dim rhaid cael llawer o le i dyfu eich bwyd eich hun, o berlysiau i salad, ffrwythau a llysiau. Gall bwyd wedi’i dyfu gartref fod yn well i’n waledi ni ac i'r hinsawdd. Wrth i fyd natur roi’r rhoddion yma i ni, gallwn helpu i roi yn ôl i fyd natur drwy greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt hefyd!
Mae gennym ni gynnig unigryw i bawb sy’n addo tyfu bwyd mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt fis Awst eleni! Mae Seedball wedi cynhyrchu tuniau hyfryd o hadau blodau gwyllt ar ein cyfer ni yn unig, yn berffaith ar gyfer eu hau yn yr hydref eleni. Ar ôl addo eich gofod, fe fyddwch chi’n derbyn cod gostyngiad o 50% i'w ddefnyddio ar eu gwefan nhw.
Amcangyfrifir bod 24 miliwn o erddi yn y DU, sy'n cyfrif am bron i 30% o gyfanswm yr ardaloedd trefol ac yn creu brithwaith o werddonau ar gyfer byd natur mewn trefi a dinasoedd. Ychwanegwch at hynny yr holl filiynau o botiau planhigion ar falconïau a silffoedd ffenestri. Felly gall yr hyn rydyn ni'n dewis ei dyfu a sut rydyn ni'n gofalu am y llefydd yma, dim ots pa mor fach ydyn nhw, wneud byd o wahaniaeth i ni ac i fywyd gwyllt. Ewch ati i addo eich gardd isod.