Darganfod Gwlad Hud y Gaeaf

Red holly berries in snow

Holly Berries in Snow (c) Alan Price

Darganfod Gwlad Hud y Gaeaf

Cydbwysedd o orffwys a dathlu

Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i bobl a bywyd gwyllt. Rydyn ni eisiau gaeafgysgu, aros dan do, a chwilio am gynhesrwydd a bwyd cysurus. Ond mae yna hefyd ddathliadau crefyddol a seciwlar a phopeth yn y canol; rydyn ni’n dod at ein gilydd adeg y Nadolig, heb ystyried ein cefndir, ac yn ailddarganfod ein cymunedau, ein cymdogion, ein ffrindiau a'n teuluoedd. Rydyn ni'n rhannu bwyd ac yn adrodd straeon y flwyddyn ddiwethaf, ac yn edrych ymlaen at y nesaf. 

Mae patrwm tebyg i'w weld yn ein gerddi a'n mannau tyfu ni. Gallwn helpu bywyd gwyllt drwy sicrhau bod lle iddyn nhw gysgodi, a thrwy arddio gan feddwl am adar a thrychfilod, gan gofio bod angen storfeydd o ffrwythau, aeron, hadau a chnau arnyn nhw a mynediad at ddŵr. Cawn ein gwobrwyo yn ystod y dyddiau oer, ffres, gan Robin goch yn siffrwd dan wrychoedd a gwiwerod yn gwibio ar draws parciau, fflachiadau coch a brown yn erbyn cefndir gwyn brau o eira neu darth. 

Mae'n amser pwyso a mesur, cynllunio, breuddwydio a rhannu. 

 

Take action for wildlife and nature this winter