
Orange-tip ©Bob Coyle

©Ross Hoddinott/2020VISION
Gwyn blaen oren
Mae’n hawdd gweld o ble mae’r glöyn byw yma’n cael ei enw – mae gan y gwrywod flaen oren llachar ar eu hadenydd! Mae posib eu gweld o’r gwanwyn drwodd i’r haf mewn dolydd, coetiroedd a gwrychoedd.
Enw gwyddonol
Anthocharis cardaminesPryd i'w gweld
Ebrill - GorffennafSpecies information
Ystadegau
Lled yr adenydd: 4.0-5.2 cmCyffredin
Ynghylch
Mae’r glöyn byw bach hardd yma’n hawdd ei adnabod gan fod blaen oren llachar ar adenydd y gwryw – sy’n rhoi ei enw iddo! Maen nhw’n olygfa gyffredin yn ystod y gwanwyn ac i’w gweld mewn llawer o fannau, gan gynnwys dolydd, coetiroedd a gwrychoedd. Mae’r oedolion yn dodwy eu hwyau ar blanhigion arbennig er mwyn sicrhau bod gan eu lindys fwyd addas i’w fwyta. Mae lindys y gwyn blaen oren yn hoff iawn o blanhigion garlleg y berth, blodau llefrith a roced y berth!Sut i'w hadnabod
Mae gwryw y gwyn blaen oren yn gwbl unigryw: glöyn byw gwyn gyda hanner ei flaenadain yn oren llachar, ac mae blaenau ei adenydd yn llwyd golau. Mae’r fenyw yn wyn hefyd, ond bod blaenau ei hadenydd yn ddu-lwyd, yn debyg i löynnod byw gwynion. Mae’r ddau ryw yn dangos patrwm brith, ‘llwyd mwsogl’ o dan eu hadenydd ôl pan maen nhw’n gorffwys.Dosbarthiad
I’w weld ledled y DU, ond yn brinnach yng ngogledd yr Alban.Roeddech chi yn gwybod?
Mae lindys y gwyn blaen oren yn ganibaliaid, gan fwyta plisg eu hwyau eu hunain wrth ddod allan ohono a symud ymlaen i fwyta wyau unrhyw wyn blaen oren arall sydd gerllaw wedyn. Mae’r lindys yn chwileru ym mis Gorffennaf a thros y gaeaf, gan ddod allan fel glöynnod byw y gwanwyn canlynol.
Orange-tip egg on cuckooflower
Feeding orange-tips in your garden
Adult butterflies will visit a variety of flowers to sip on nectar, including bluebells, bugle, cuckooflower, dandelions and garlic mustard. The caterpillars prefer to feed on cuckooflower and garlic mustard - look out for tiny orange eggs on the stems!

Orange-tip egg on cuckooflower
Feeding orange-tips in your garden
Adult butterflies will visit a variety of flowers to sip on nectar, including bluebells, bugle, cuckooflower, dandelions and garlic mustard. The caterpillars prefer to feed on cuckooflower and garlic mustard - look out for tiny orange eggs on the stems!