Wyth cyngor doeth ar gyfer tyfu heb fawn
Mawn yw cyfrinach fudr y byd garddwriaethol – ac mae ei ddefnyddio yn eich gerddi chi’n dinistrio’r blaned. Mae mawnogydd yn ecosystemau prin sy’n gartref i gyfoeth o blanhigion, adar a thrychfilod. Maen nhw hefyd yn storio tair gwaith mwy o garbon na choedwigoedd.
Er gwaethaf hyn, mae sypiau enfawr yn cael eu gwerthu fel compost mewn bagiau. Gyda bron i 95% wedi diraddio neu wedi diflannu, ni fydd mawndir wedi’i adfer i’w weld yn ein cenhedlaeth ni – na chenhedlaeth ein plant a’n hwyrion, na hyd yn oed ein gor-wyrion. Mae'n cymryd blwyddyn gyfan i greu dim ond 1mm o fawn. Mae hynny’n 1,000 o flynyddoedd cyn bydd modd i fawnogydd ddechrau gweithredu eto.
Gyda’r camau tuag at waharddiad mawn i arddwyr amatur a addawyd yn 2024 yn symud yn eu blaen ar gyflymder malwen, a fawr ddim cynnydd gyda mawn garddwriaethol, rhaid i arddwyr ddangos arweiniad a thyfu heb fawn. Dyma ein cyngor doeth ni:
-
Gwario cymaint ag y gallwch chi. Yn anffodus, mae compost rhad heb fawn yn cael ei wneud o wastraff gwyrdd yn aml, a bydd yn rhoi canlyniadau gwael i chi. Buddsoddwch yn eich gardd a thyfu drwy brynu'r gorau y gallwch chi ei fforddio. Rydyn ni’n awgrymu Melcourt’s SylvaGrow, compostau gwlân Dalefoot a Fertile Fibre.
-
Chwilio am symbol y Cynllun Ffynhonnell Gyfrifol. Mae'r cynllun yma’n mesur compost mewn bagiau yn erbyn saith maen prawf i asesu ei rinweddau amgylcheddol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fod yn siŵr bod y compost di-fawn rydych chi wedi’i brynu wedi cael ei greu’n foesegol heb fawr ddim ynni, dŵr a llygredd ac o ffynonellau adnewyddadwy. Mwy o wybodaeth.
-
Gwirio eich planhigion mewn potiau. Mae dirfawr angen labelu cliriach ar gynhyrchion sy'n cynnwys mawn. Mae mawn i'w gael mewn llawer o blanhigion sydd wedi'u potio'n barod, madarch, salads deiliog a phlanhigion tŷ. Gwiriwch beth rydych chi’n ei brynu bob amser a gwnewch yn siŵr bod eich canolfan arddio neu’ch cyflenwr yn gwybod eich bod chi’n dymuno prynu cynnyrch di-fawn.
-
Dyfrio ychydig yn aml. Oherwydd eu bod nhw’n cynnwys llawer o risgl coconyt a naddion pren, gall cymysgeddau di-fawn sychu'n haws. Mae eu gwead bras yn golygu y gallant ymddangos yn sych ar yr wyneb ond eu bod yn llaith o hyd ymhellach i lawr. Gwiriwch drwy roi eich bys tua 1 fodfedd i mewn i'r pridd. Peidiwch â gadael iddyn nhw sychu’n llwyr oherwydd bydd yn anodd eu dyfrio eto, gan fod y dŵr yn rhedeg oddi ar y top. Os bydd hyn yn digwydd, gosodwch y pot mewn dŵr i adael iddo sugno’r lleithder i fyny.
-
Bwydo ar ôl pedair wythnos. Mae'r rhan fwyaf o gompostau di-fawn yn darparu gwrtaith hyd at bedair wythnos, ond ar ôl hyn gallwch wneud eich bwyd hylif eich hun ar gyfer cnydau a phlanhigion sy’n cael eu tyfu mewn cynhwysydd. Mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn.
-
Gwneud eich cymysgeddau compost eich hun. Gydag ychydig o waith cynllunio, gallwch leihau faint o fawn mewn bagiau rydych chi'n ei brynu i mewn ac arbrofi gyda'ch ryseitiau eich hun. Ar gyfer hau hadau, cymysgwch un rhan o bridd gardd (lôm) gydag un rhan o ddeilbridd wedi pydru’n dda a thynnu unrhyw lympiau allan gyda rhidyll. Mwy o ryseitiau compost.
-
Codi eich llais. Llofnodwch addewid Garden Organic i ddangos i’r Llywodraeth eich bod chi eisiau iddi weithredu’n gynt i wahardd defnyddio mawn mewn gerddi.
-
Edrych ar Enrich the Earth. Mae’r ymgyrch gydweithredol yma wedi cael ei chreu gan gynghrair o sefydliadau arbenigol – gan gynnwys Garden Organic – i helpu pobl i wneud dewisiadau amgylcheddol mwy gwybodus ac effeithiol. Dewch o hyd i'ch 'cymar pridd' perffaith a gwybodaeth ddefnyddiol arall dwy ei wefan.
I gael rhagor o gyngor ar ddefnyddio compost di-fawn a’i fanteision ewch i’n hwb ni - For Peats Sake, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i gwrs ar-lein am ddim yn rhoi sylw i dyfu heb fawn.