Your Coronation Garden in Winter

Your Coronation Garden in Winter

(c) 2020VISION

.

Eich Gardd y Coroni yn y Gaeaf

Mis Rhagfyr yw dechrau swyddogol y gaeaf yng ngwledydd Prydain fel arfer, yn ôl y Swyddfa Dywydd. Er nad dyma’r mis oeraf a mwyaf llwm – mae mis Ionawr fel arfer fymryn yn oerach – yn sicr dyma’r mis pan fyddwn ni’n sylwi ar y tymheredd yn plymio. 

Mae ein bywyd gwyllt brodorol ni wedi addasu’n dda i oroesi mewn amodau oer, ond gall dylanwad pobl ar y cynefinoedd ei gwneud ychydig yn anoddach i rai creaduriaid. Os oes gennych chi fynediad i ofod awyr agored – gardd, gofod gwyrdd cymunedol, rhandir, neu ysgol neu ofod busnes – fe allwch chi helpu drwy greu lloches. Er nad yw pob anifail yn gaeafgysgu, bydd llawer o greaduriaid yn croesawu llecyn cysgodol i'w cadw nhw’n ddiogel rhag ysglyfaethwyr a'r tywydd gwaethaf. Mae pentwr syml o foncyffion yn ddechrau gwych. 

Daliwch ati i ddarparu dŵr ar gyfer bywyd gwyllt, ond cadwch lygad arno a thorri'r iâ os oes angen. Mae mwy o wybodaeth am helpu bywyd gwyllt mewn tywydd oer ar gael ar ein tudalen we ni yma. 

Efallai eich bod chi’n teimlo nad oes dim byd yn tyfu yr adeg yma o'r flwyddyn. Ond fe allwch chi ddod â'r tu allan dan do - beth am roi cynnig ar rai perlysiau ar silff ffenest neu falconi? Mae rhai perlysiau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt wedi'u rhestru yma. Gallwch ymestyn oes perlysiau o’r archfarchnad drwy eu rhannu'n ofalus a'u hailbotio mewn cynwysyddion ar wahân. Cofiwch chwilio am berlysiau wedi’u tyfu mewn compost heb fawn, ac os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar ein hymgyrch Peat Inspectors ni a gofynnwch i’ch archfarchnad leol wneud yn well. Y ffordd hawsaf o sicrhau nad oes mawn gyda’ch planhigion, wrth gwrs, yw drwy dyfu eich rhai eich hun o hadau – mae rhagor o help a chyngor ar gael gan Garden Organic yma

Mae Rhagfyr yn gyfnod o roi anrhegion, y Nadolig, Yule, Hannukah a dathliadau gyda'r teulu. Mae’n gallu bod yn demtasiwn ildio i wledd o ormodedd llawn plastig, ond fe allwch chi gael Nadolig mwy eco-gyfeillgar yn eithaf hawdd (a gallai fod yn fwy caredig i'ch waled chi hefyd). Mae gennym ni rai cynghorion ac awgrymiadau yma, sy'n rhoi pethau i chi eu hystyried wrth brynu anrhegion, lapio anrhegion, prynu neu wneud bwyd, ac addurno eich tŷ. 

Mae crefftau’r Nadolig yn boblogaidd iawn ac fe allwch chi gael hwyl drwy greu torch sy’n gyfeillgar i adar. Edrychwch ar ein canllawiau ni yma – ond efallai y byddai’n well ei hongian ar goeden yn hytrach na’ch drws ffrynt!