Garddio heb blastig: ffyrdd hawdd o wneud gwahaniaeth enfawr
Mae'n fis Gorffennaf Dim Plastig! Edrychwch o gwmpas eich gardd neu ofod tyfu. Faint o blastig ydych chi'n ei weld?
Gall deimlo’n anodd ei osgoi – wedi’r cyfan, mae planhigion yn dod mewn potiau plastig, mae hambyrddau hadau plastig yn rhad ac ar gael yn hawdd, a sut arall mae llwytho bag o gompost heb fawn i’ch car?
Ond mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu. A does dim rhaid i chi wneud popeth. Mae Gorffennaf Dim Plastig yn gofyn i ni i gyd ystyried rhoi’r gorau i ddefnyddio dim ond un math o blastig – gwneud un newid bach yn unig. Darganfyddwch fwy am hynny yma. Gorffennaf Dim Plastig – Byddwch yn Rhan o’r Datrysiad Llygredd Plastig
Garddio heb blastig
Mae gan Garden Organic wybodaeth wych yma, gyda saith ffordd y gallwch chi leihau eich defnydd o blastig yn eich gardd. Saith ffordd i leihau eich defnydd o blastig yn eich gardd | Garden Organic
Gan yr Ymddiriedolaethau Natur, mae’r dudalen ddefnyddiol yma, Sut i ddefnyddio llai o blastig | Yr Ymddiriedolaethau Natur, yn llawn gwybodaeth am ddefnyddio llai o blastig yn gyffredinol.
Os ydych chi'n ddigon ffodus i fod â lle i dyfu coed, efallai eich bod chi wedi meddwl am y gwarchodwyr coed plastig hynny i amddiffyn eginblanhigion a choed ifanc. A dweud y gwir, meddyliwch eto – chwiliwch am opsiynau eraill yma. Plannu Heb Blastig | Yr Ymddiriedolaethau Natur
Mae gan Ben Vanheems o GrowVeg fideo byr gwych yma, https://youtu.be/HSZB0DyxlfI?feature=shared, yn llawn cyngor ar ddewisiadau amgen i blastig yn yr ardd lysiau – o brynu, hau, tyfu a chynaeafu hyd at sut gallwch chi storio gwahanol lysiau.
Byw heb blastig
Mae SyM wedi bod yn cynnal ymgyrch ers rhai blynyddoedd bellach, a’i henw yw End Plastic Soup. Gallwch ddod o hyd i fwy am hynny yma End Plastic Soup | National Federation of Women's Institutes (thewi.org.uk) a beth am lawrlwytho eu pecyn gweithredu yma PLASTIC SOUP ACTION PACK.indd (thewi.org.uk).
I gael ysbrydoliaeth, edrychwch ar y blog yma Dim Plastig am Flwyddyn | Yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae Bex Lynam, Swyddog Eiriolaeth Morol Môr y Gogledd, sy'n gweithio yn Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog, yn esbonio sut gwnaeth hi ymateb i'r her o beidio â defnyddio plastig am flwyddyn gyfan.