Peidiwch â Defnyddio Mawn

Compost

Peidiwch â Defnyddio Mawn

Mewn corsydd, nid mewn bagiau, mae mawn yn perthyn   

Mae mawn yn llawer mwy na dim ond math o bridd. Mae'n rhan hanfodol o'n tirweddau gwyllt ni, gan storio llawer iawn o garbon a chreu'r amodau perffaith i fywyd gwyllt prin a rhyfeddol ffynnu. Mae'n ffurfio'n anhygoel o araf, gan gymryd mil o flynyddoedd i gynhyrchu dim ond un metr o fawn. Ni allwn fforddio ei gloddio i'w ddefnyddio yn ein gerddi, ein bocsys ffenestri neu mewn gofod arall, nac i dyfu'r planhigion rydyn ni’n eu prynu mewn canolfannau garddio. Mae angen i ni gadw mawn yn y ddaear, yn y corsydd gwych mae'n eu ffurfio. 

Y cam cyntaf yw prynu compost heb fawn yn unig - mae ein tudalen ni am gynhyrchion heb fawn isod yn cynnwys rhestr o fanwerthwyr sydd â chynhyrchion heb fawn. Gallech ddewis gwneud eich compost eich hun hefyd – os nad oes gennych chi ardd, gallai abwydfa dan do neu gynllun compostio cymunedol helpu i ddarparu compost ar gyfer tyfu eich planhigion mewn potiau. Y cam nesaf yw osgoi prynu planhigion sydd wedi’u tyfu mewn compost mawn. Gall hyn fod ychydig yn anoddach, oherwydd dydyn nhw ddim wedi'u labelu bob amser, felly efallai y bydd angen i chi ofyn. Mae gennym ni fwy o gynghorion ar y tudalennau isod.